Diarhebion 15:28-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.

29. Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.

30. Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,a newydd da yn adfywio'r corff.

31. Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywydyn aros yng nghwmni'r doeth.

32. Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.

33. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Diarhebion 15