Diarhebion 15:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

20. Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.

21. Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.

22. Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.

23. Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,a beth sy'n well na gair yn ei bryd?

24. Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,i'w droi oddi wrth Sheol isod.

Diarhebion 15