Diarhebion 15:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

15. I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.

16. Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDDna chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.

17. Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.

18. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

19. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

20. Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.

Diarhebion 15