Diarhebion 15:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae ateb llednais yn dofi dig,ond gair garw yn cynnau llid.

2. Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.

3. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,yn gwylio'r drwg a'r da.

4. Y mae tafod tyner yn bren bywiol,ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.

5. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

Diarhebion 15