Diarhebion 12:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.

9. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.

10. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,ond y mae'r drygionus yn ddidostur.

11. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.

Diarhebion 12