Diarhebion 10:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.

3. Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.

4. Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.

5. Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.

Diarhebion 10