Diarhebion 1:27-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,a dinistr yn taro fel storm,pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.

28. Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.

29. Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,

30. a gwrthod fy nghyngor,ac anwybyddu fy holl gerydd,

31. cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,a syrffedu ar eu cynlluniau.

32. Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd,a difrawder y ffyliaid yn eu difa.

33. Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel,yn dawel heb ofni drwg.

Diarhebion 1