Diarhebion 1:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,ac yn prysuro i dywallt gwaed.

17. Yn sicr, ofer yw gosod rhwydyng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.

18. Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.

19. Dyma dynged pob un awchus am elw;y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.

20. Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,yn codi ei llais yn y sgwâr,

Diarhebion 1