Deuteronomium 9:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Cofia dy weision, Abraham, Isaac a Jacob; paid ag edrych ar ystyfnigrwydd, drygioni a phechod y bobl hyn,

28. rhag i drigolion y wlad y daethost â hwy allan ohoni ddweud, ‘Am ei fod yn methu mynd â hwy i'r wlad a addawodd iddynt, ac am ei fod yn eu casáu, y daeth yr ARGLWYDD â hwy allan i'w lladd yn yr anialwch.’

29. Ond dy bobl di ydynt, dy etifeddiaeth a ddygaist allan â'th nerth mawr ac â'th fraich estynedig.”

Deuteronomium 9