Deuteronomium 4:29-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Os byddwch yn ceisio'r ARGLWYDD eich Duw yno, ac yn chwilio amdano â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, byddwch yn ei gael.

30. Pan fydd yn gyfyng arnat, a'r holl bethau hyn yn digwydd iti yn y dyddiau sy'n dod, yna tro at yr ARGLWYDD dy Dduw a gwrando ar ei lais.

31. Oherwydd Duw trugarog yw'r ARGLWYDD dy Dduw; ni fydd yn dy siomi nac yn dy ddifa, ac ni fydd yn anghofio'r cyfamod a wnaeth trwy lw â'th hynafiaid.

32. Ystyria'r dyddiau gynt, cyn dy amser di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, a chwilia'r nefoedd o un cwr i'r llall. A fu peth mor fawr â hyn, neu a glywyd am beth tebyg?

33. A glywodd pobl lais Duw yn llefaru o ganol tân, fel y clywaist ti, a byw?

34. A geisiodd unrhyw dduw ddod i gymryd iddo'i hun genedl o ganol cenedl trwy dreialon, arwyddion, rhyfeddodau, a brwydr, ac â llaw gadarn a braich estynedig a llawer o bethau arswydus, fel y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw yn eich gŵydd yn yr Aifft?

35. Cefaist ti brofi hyn er mwyn iti wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw, ac nad oes un arall.

36. Parodd iti glywed ei lais o'r nefoedd i'th ddisgyblu, a dangosodd iti ei dân mawr ar y ddaear, a chlywaist ei eiriau o ganol y tân.

37. Am iddo garu dy hynafiaid a dewis eu plant ar eu hôl, y daeth â thi allan o'r Aifft trwy ei bresenoldeb â nerth mawr,

38. a gyrru allan o'th flaen genhedloedd oedd yn fwy ac yn gryfach na thi, a'th arwain a rhoi iti eu gwlad yn etifeddiaeth, fel y mae heddiw.

39. Heddiw yr wyt ti i gydnabod ac i ystyried mai'r ARGLWYDD sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod, ac nad oes un arall.

Deuteronomium 4