Deuteronomium 4:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Byddaf fi yn marw yn y wlad hon, ac ni chaf groesi'r Iorddonen, ond byddwch chwi yn croesi ac yn meddiannu'r wlad dda hon.

23. Byddwch ofalus rhag anghofio'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi, a gwneud i chwi eich hunain ddelw gerfiedig ar ffurf unrhyw beth a waharddodd yr ARGLWYDD dy Dduw.

24. Oherwydd tân yn ysu yw'r ARGLWYDD dy Dduw; y mae ef yn Dduw eiddigus.

25. Pan fydd gennych blant ac wyrion, a chwithau wedi mynd yn hen yn y wlad, os byddwch yn gweithredu'n llygredig trwy wneud delw gerfiedig ar unrhyw ffurf, ac yn gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw ac ennyn ei ddig,

Deuteronomium 4