Deuteronomium 34:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.

7. Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na'i ynni wedi pallu.

8. Wylodd yr Israeliaid am Moses yn rhosydd Moab am ddeg diwrnod ar hugain; yna daeth cyfnod yr wylo a'r galaru i ben.

9. Yr oedd Josua fab Nun yn llawn o ysbryd doethineb, oherwydd yr oedd Moses wedi gosod ei ddwylo arno; felly gwrandawodd yr Israeliaid arno yntau, a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

10. Ni chododd yn Israel byth wedyn broffwyd tebyg i Moses, un yr oedd yr ARGLWYDD yn ei adnabod wyneb yn wyneb,

11. ac un a anfonodd i gyflawni'r holl arwyddion ac argoelion yng ngwlad yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl weision a'r wlad i gyd.

12. Ni fu neb mor gadarn ei allu, ac ni fu un a wnaeth yr holl weithredoedd dychrynllyd a wnaeth Moses yng ngolwg Israel gyfan.

Deuteronomium 34