Deuteronomium 34:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan,

2. holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin;

3. yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar.

Deuteronomium 34