Deuteronomium 33:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5. Gwnaed ef yn frenin ar Jesurunpan ymgasglodd penaethiaid y bobl,a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

6. Bydded Reuben fyw, ac nid marw,ond na foed ei dylwyth yn niferus.

7. A dyma a ddywedodd am Jwda:Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,a dwg ef at ei bobl;â'i ddwylo yr ymdrechodd—ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.

Deuteronomium 33