Deuteronomium 33:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.

23. Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.

24. Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.

25. Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.

26. Nid oes tebyg i Dduw Jesurun,sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo,ac ar y cymylau yn ei ogoniant.

27. Duw'r oesoedd yw dy noddfa,ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen,a dweud, “Difetha ef.”

Deuteronomium 33