Deuteronomium 32:32-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Daw eu gwinwydd o Sodomac o feysydd Gomorra;grawnwin gwenwynig sydd arnynt,yn sypiau chwerw.

33. Gwenwyn seirff yw eu gwin,poeryn angheuol asbiaid.

34. Onid yw hyn gennyf wrth gefn,wedi ei selio yn fy stôr,

35. mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth,pan fydd eu troed yn llithro?Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos,a'u distryw yn brysio atynt.

36. Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobla bydd yn trugarhau wrth ei weision,pan wêl fod eu nerth wedi darfod,ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd.

37. Yna fe ddywed, “Ble mae eu duwiau,y graig y buont yn ceisio lloches dani,

Deuteronomium 32