Deuteronomium 32:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. nychdod newyn, anrheithiau twymyn,a dinistr chwerw.Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyna gwenwyn ymlusgiaid y llwch.

25. Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid,ac yn y cartref bydd arswyd;trewir y gwŷr ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd,y baban sugno yn ogystal â'r hynafgwr.

26. “Fy mwriad oedd eu gwasgaru,a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,

27. oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio,a'u gwrthwynebwyr yn camddealla dweud, ‘Ein llaw ni sydd wedi trechu;nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.’ ”

28. Cenedl brin o gyngor ydynt,heb ddealltwriaeth ganddynt;

Deuteronomium 32