Deuteronomium 32:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw,a'm digio â'u heilunod;gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl,a'u digio â chenedl ynfyd.

22. “Yn ddiau, cyneuwyd tân gan fy nig,ac fe lysg hyd waelod Sheol;bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch,ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd.

23. Pentyrraf ddrygau arnynt,saethaf atynt bob saeth sydd gennyf:

24. nychdod newyn, anrheithiau twymyn,a dinistr chwerw.Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyna gwenwyn ymlusgiaid y llwch.

25. Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid,ac yn y cartref bydd arswyd;trewir y gwŷr ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd,y baban sugno yn ogystal â'r hynafgwr.

26. “Fy mwriad oedd eu gwasgaru,a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,

27. oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio,a'u gwrthwynebwyr yn camddealla dweud, ‘Ein llaw ni sydd wedi trechu;nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.’ ”

28. Cenedl brin o gyngor ydynt,heb ddealltwriaeth ganddynt;

29. gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hynac i amgyffred beth fydd eu diwedd!

30. Sut y gall un ymlid mil,neu ddau yrru myrdd ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu,a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo?

Deuteronomium 32