1. Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf;clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau.
2. Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw,a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith,fel glaw mân ar borfa,megis cawodydd ar laswellt.
3. Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD,cyffeswch fawredd ein Duw.