Deuteronomium 3:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Cymerodd Jair fab Manasse y cyfan o diriogaeth Argob hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a hyd heddiw gelwir Basan yn Hafoth-jair ar ei ôl ef.

15. Rhoddais Gilead i Machir;

16. ac i Reuben a Gad rhoddais y tir sy'n ymestyn o Gilead hyd at nant Arnon, a chanol y nant yn derfyn iddo, a hyd at nant Jabboc, ar derfyn yr Ammoniaid,

17. a hefyd yr Araba, a'r Iorddonen yn derfyn iddo, o Cinnereth hyd at fôr yr Araba, sef y Môr Marw, islaw llethrau Pisga i'r dwyrain.

18. Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.

Deuteronomium 3