Deuteronomium 28:65-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg.

66. Bydd dy fywyd fel pe'n hongian o'th flaen, a bydd arnat ofn nos a dydd, heb ddim sicrwydd gennyt am dy einioes.

67. O achos yr ofn yn dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, byddi'n dweud yn y bore, “O na fyddai'n hwyr!” ac yn yr hwyr, “O na fyddai'n fore!”

Deuteronomium 28