Deuteronomium 28:52-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

53. Oherwydd y cyni a achosir iti gan warchae dy elyn, byddi'n bwyta ffrwyth dy gorff dy hun, cnawd dy feibion a'th ferched, a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

54. Bydd y dyn mwyaf tyner a theimladwy yn eich plith yn gwarafun rhoi i'w frawd, nac i wraig ei fynwes nac i weddill ei blant sydd ar ôl,

Deuteronomium 28