Deuteronomium 28:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Byddi'n achos syndod, yn ddihareb ac yn gyff gwawd ymysg yr holl bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon atynt.

38. Er iti fynd â digonedd o had i'r maes, ychydig a fedi, am i locustiaid ei ysu.

39. Byddi'n plannu gwinllannoedd ac yn eu trin, ond ni chei yfed y gwin na chasglu'r grawnwin, am i bryfetach eu bwyta.

40. Bydd gennyt olewydd trwy dy dir i gyd, ond ni fyddi'n dy iro dy hun â'r olew, oherwydd bydd dy olewydd yn colli eu ffrwyth.

Deuteronomium 28