Deuteronomium 28:36-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon di, a'r brenin y byddi'n ei osod arnat, at genedl na fu i ti na'th gyndadau ei hadnabod; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron o bren a charreg.

37. Byddi'n achos syndod, yn ddihareb ac yn gyff gwawd ymysg yr holl bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon atynt.

38. Er iti fynd â digonedd o had i'r maes, ychydig a fedi, am i locustiaid ei ysu.

39. Byddi'n plannu gwinllannoedd ac yn eu trin, ond ni chei yfed y gwin na chasglu'r grawnwin, am i bryfetach eu bwyta.

40. Bydd gennyt olewydd trwy dy dir i gyd, ond ni fyddi'n dy iro dy hun â'r olew, oherwydd bydd dy olewydd yn colli eu ffrwyth.

41. Byddi'n cenhedlu meibion a merched, ond ni chei eu cadw, oherwydd fe'u cludir i gaethiwed.

42. Bydd locustiaid yn difa pob coeden fydd gennyt a chynnyrch dy dir.

43. Bydd y dieithryn yn eich mysg yn dal i godi'n uwch ac yn uwch, a thithau'n disgyn yn is ac yn is.

44. Ef fydd yn rhoi benthyg i ti, nid ti iddo ef; ef fydd y pen, a thithau'n gynffon.

45. Daw'r holl felltithion hyn arnat, a'th ddilyn a'th amgylchu nes iti gael dy ddinistrio, am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw na chadw ei orchmynion a'i ddeddfau fel y gorchmynnodd iti.

46. Byddant yn arwydd ac yn argoel i ti ac i'th ddisgynyddion am byth,

47. gan na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy Dduw mewn llawenydd a llonder calon am iddo roi iti ddigonedd o bopeth.

48. Eithr mewn newyn a syched, noethni a dirfawr angen, byddi'n gwasanaethu'r gelynion y mae'r ARGLWYDD yn eu hanfon yn dy erbyn. Bydd yn gosod iau haearn ar dy war nes iddo dy ddinistrio.

49. Bydd yr ARGLWYDD yn codi cenedl o bell, o eithaf y ddaear, yn dy erbyn; fel eryr fe ddaw ar dy warthaf genedl na fyddi'n deall ei hiaith,

50. cenedl sarrug ei gwedd, heb barch i'r hen na thiriondeb at yr ifanc.

51. Bydd yn bwyta cynnyrch dy fuches a'th dir, nes dy ddinistrio; ni fydd yn gadael ar ôl iti nac ŷd na gwin nac olew, na chynnydd dy wartheg nac epil dy ddefaid, nes dy ddifodi.

Deuteronomium 28