1. Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.
2. Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.
3. Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes.
4. Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.
5. Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino.
6. Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.