Deuteronomium 25:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.

7. Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, “Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith â mi.”

8. Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, “Nid wyf yn dymuno ei phriodi”,

9. bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.”

10. A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.

Deuteronomium 25