Deuteronomium 23:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Nid wyt i godi llog ar un o'th dylwyth am fenthyg arian, na bwyd, na dim arall a roir ar fenthyg.

20. Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu.

21. Os byddi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD dy Dduw, paid ag oedi cyn ei chyflawni; bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'i hawlio gennyt, a byddi dithau yn euog o bechod.

22. Pe bait heb addunedu, ni fyddet yn euog.

23. Gwylia beth a ddaw allan o'th enau, a chyflawna d'addewid i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan mai o'th wirfodd yr addewaist.

24. Os byddi'n mynd trwy winllan dy gymydog, cei fwyta dy wala o'r grawnwin, ond paid â rhoi dim yn dy fasged.

Deuteronomium 23