Deuteronomium 21:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. y mae dy henuriaid a'th farnwyr i fynd allan a mesur y pellter at bob tref o gylch y corff.

3. Yna y mae henuriaid y dref agosaf at y corff i gymryd heffer na fu'n gweithio erioed ac na fu dan yr iau,

4. a mynd â hi i lawr i ddyffryn heb ei drin na'i hau, ond lle mae nant yn rhedeg. Yno yn y dyffryn torrant wegil yr heffer.

5. Yna daw'r offeiriaid, meibion Lefi, ymlaen, gan mai hwy y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi eu dewis i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw, ac yn ôl eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes.

Deuteronomium 21