Deuteronomium 2:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,

18. “Heddiw yr wyt i groesi terfyn Moab yn ymyl Ar.

19. Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid â'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot.”

20. (Ystyrid hwn hefyd yn dir y Reffaim, am mai'r Reffaim oedd yn byw yno yn yr amser gynt, ond yr oedd yr Ammoniaid yn eu galw'n Samsumim.

21. Yr oeddent hwy yn ddynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim; ond fe ddifawyd y Reffaim gan yr ARGLWYDD, a chymerodd yr Ammoniaid feddiant o'u tir, a byw yno.

22. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr un fath i feibion Esau oedd yn byw yn Seir, pan ddifaodd yr Horiaid o'u blaen, a chymerasant hwythau feddiant o'u tir, a byw yno hyd heddiw.

Deuteronomium 2