Deuteronomium 19:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Os bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn estyn dy derfynau, fel y tyngodd i'th hynafiaid y gwnâi, ac yn rhoi iti'r holl wlad a addawodd i'th hynafiaid,

9. oherwydd iti ofalu cadw'r cwbl o'r gorchymyn hwn yr wyf yn ei roi iti heddiw, i garu'r ARGLWYDD dy Dduw a cherdded yn ei ffyrdd bob amser, yna rwyt i ychwanegu tair dinas arall at y tair cyntaf.

10. Nid yw gwaed y dieuog i'w dywallt o fewn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth, rhag iti fod yn euog o dywallt gwaed.

11. Os bydd rhywun yn casáu ei gymydog ac yn ymosod yn llechwraidd arno a'i anafu mor ddifrifol nes ei fod yn marw, ac yna yn dianc i un o'r dinasoedd hyn,

12. y mae henuriaid ei dref i anfon rhai i'w gyrchu oddi yno a'i drosglwyddo i'r dialydd gwaed; a bydd farw.

13. Nid wyt i dosturio wrtho, ond i ddileu o Israel euogrwydd am dywallt gwaed y dieuog, er mwyn iddi fod yn dda arnat.

14. Paid â symud terfyn dy gymydog, a osodwyd o'r dechrau yn yr etifeddiaeth a gefaist yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.

15. Nid yw un tyst yn ddigon yn erbyn neb mewn unrhyw achos o drosedd neu fai, beth bynnag fo'r bai a gyflawnwyd; ond fe saif tystiolaeth dau neu dri.

16. Os bydd tyst maleisus yn codi yn erbyn rhywun i'w gyhuddo o gamwri,

17. safed y ddau sy'n ymrafael yng ngŵydd yr ARGLWYDD, gerbron yr offeiriaid a'r barnwyr ar y pryd.

18. Holed y barnwyr yn ddyfal, ac os ceir mai gau dyst ydyw a'i fod wedi dwyn gau dystiolaeth yn erbyn ei gymydog,

19. gwneler iddo yr hyn y bwriadodd ef ei wneud i'w gymydog; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

20. Pan glyw y lleill, bydd arnynt ofn a pheidiant â gwneud y fath ddrwg mwyach.

21. Nid wyt i ddangos tosturi; bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

Deuteronomium 19