Deuteronomium 19:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. rhag i'r dialydd gwaed yn ei gynddaredd ddilyn y lleiddiad a'i ddal oherwydd meithder y daith, a'i daro'n farw, er nad oedd yn haeddu marw, am nad oedd yn casáu ei gymydog o'r blaen.

7. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti neilltuo tair dinas.

8. Os bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn estyn dy derfynau, fel y tyngodd i'th hynafiaid y gwnâi, ac yn rhoi iti'r holl wlad a addawodd i'th hynafiaid,

9. oherwydd iti ofalu cadw'r cwbl o'r gorchymyn hwn yr wyf yn ei roi iti heddiw, i garu'r ARGLWYDD dy Dduw a cherdded yn ei ffyrdd bob amser, yna rwyt i ychwanegu tair dinas arall at y tair cyntaf.

Deuteronomium 19