Deuteronomium 19:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Os bydd tyst maleisus yn codi yn erbyn rhywun i'w gyhuddo o gamwri,

17. safed y ddau sy'n ymrafael yng ngŵydd yr ARGLWYDD, gerbron yr offeiriaid a'r barnwyr ar y pryd.

18. Holed y barnwyr yn ddyfal, ac os ceir mai gau dyst ydyw a'i fod wedi dwyn gau dystiolaeth yn erbyn ei gymydog,

19. gwneler iddo yr hyn y bwriadodd ef ei wneud i'w gymydog; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

20. Pan glyw y lleill, bydd arnynt ofn a pheidiant â gwneud y fath ddrwg mwyach.

21. Nid wyt i ddangos tosturi; bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

Deuteronomium 19