Deuteronomium 18:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr wyt i roi iddo flaenffrwyth dy ŷd, dy win newydd a'th olew, a'r cnu cyntaf wrth gneifio dy ddefaid;

5. oherwydd allan o'th holl lwythau dewisodd yr ARGLWYDD dy Dduw ef a'i ddisgynyddion i sefyll a gwasanaethu yn enw'r ARGLWYDD am byth.

6. Os bydd Lefiad, sy'n aros yn unrhyw un o'ch trefi trwy Israel gyfan, yn dod o'i wirfodd i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,

7. caiff wasanaethu yn enw'r ARGLWYDD ei Dduw ymysg ei gyd-Lefiaid sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yno.

8. Caiff ran gyfartal i'w bwyta, heblaw'r hyn a gaiff o eiddo'i deulu.

Deuteronomium 18