Deuteronomium 16:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Nid wyt i wyro barn na dangos ffafriaeth; nid wyt i gymryd llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu llygaid y doeth ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

20. Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti.

21. Paid â phlannu unrhyw fath o bren Asera gerllaw yr allor a godi i'r ARGLWYDD dy Dduw.

22. A phaid â chodi un o'r colofnau sy'n atgas gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

Deuteronomium 16