Deuteronomium 14:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Plant i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi; peidiwch â'ch archolli eich hunain na gwneud eich talcen yn foel dros y marw.

2. Pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi o holl bobloedd y byd i fod yn bobl arbennig iddo'i hun.

3. Nid ydych i fwyta dim ffiaidd.

4. Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr,

5. carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd.

6. Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil.

Deuteronomium 14