Deuteronomium 13:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. paid â chydsynio ag ef, na gwrando arno. Paid â thosturio wrtho, na'i arbed, na'i gelu.

9. Yn hytrach rhaid iti ei ladd; dy law di fydd y gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo pawb o'r bobl wedyn.

10. Llabyddia ef yn gelain â cherrig, oherwydd fe geisiodd dy droi oddi wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed;

11. yna bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni, ac ni fyddant yn gwneud y fath ddrygioni â hwn yn eich plith byth eto.

12. Pan glywch am un o'r trefi, a gewch gan yr ARGLWYDD eich Duw i fyw ynddynt,

Deuteronomium 13