Deuteronomium 13:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. yna yr ydych i ymofyn a chwilio a holi'n fanwl; os yw'n wir ac yn sicr fod y peth ffiaidd hwn wedi ei wneud yn eich mysg,

15. yr ydych i daro trigolion y dref honno â'r cleddyf. Difrodwch hi'n llwyr â'r cleddyf, gyda phopeth sydd ynddi, gan gynnwys y gwartheg.

16. Casglwch y cwbl o'i hysbail i ganol maes y dref, a llosgwch y dref a'i hysbail â thân, yn aberth llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw, a bydd yn aros yn garnedd am byth heb ei hailadeiladu.

17. Paid â dal dy afael mewn dim sydd i'w ddifrodi, er mwyn i'r ARGLWYDD droi oddi wrth angerdd ei ddig a dangos trugaredd tuag atat; yna, wrth drugarhau, bydd yn eich lluosogi fel y tyngodd wrth eich hynafiaid,

Deuteronomium 13