Deuteronomium 12:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yno gerbron yr ARGLWYDD eich Duw y byddwch chwi a'ch teuluoedd yn bwyta ac yn llawenhau ym mhopeth a wnewch, oherwydd i'r ARGLWYDD eich Duw eich bendithio.

8. Nid ydych i wneud yn union fel y gwnawn yma heddiw, lle y mae pawb yn gwneud fel y myn,

9. oherwydd nid ydych eto wedi cyrraedd yr orffwysfa a'r etifeddiaeth y mae'r ARGLWYDD eich Duw am eu rhoi ichwi.

Deuteronomium 12