Deuteronomium 12:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. ond abertha hwy yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis o fewn un o'th lwythau; yno y gwnei bopeth yr wyf yn ei orchymyn iti.

15. Er hynny, cei ladd a bwyta faint a fynni o gig yn dy drefi, yn ôl yr hyn a gei drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân ei fwyta.

16. Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel dŵr ar y ddaear.

17. Ni chei fwyta yn dy drefi dy ddegwm o ŷd, nac o win newydd nac o olew, na chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, na dim sydd wedi ei addunedu gennyt, na'th offrymau gwirfodd, na'th gyfraniadau.

18. Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei.

19. Gwylia rhag esgeuluso'r Lefiaid tra byddi byw yn dy dir.

20. Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn helaethu dy derfynau yn ôl ei addewid iti, a chwant bwyd yn dod arnat a thithau'n dweud, “Yr wyf am fwyta cig”, cei fwyta faint a fynni.

21. Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.

22. Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta.

Deuteronomium 12