Deuteronomium 1:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Fe aethant hwy a theithio i fyny i'r mynydd-dir, a mynd hyd at ddyffryn Escol, a'i chwilio.

25. Casglasant beth o ffrwythau'r tir, a dod â hwy atom, ac adrodd mai gwlad dda oedd yr un yr oedd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni.

26. Ond nid oeddech chwi'n fodlon mynd i fyny, a gwrthryfelasoch yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.

27. Yr oeddech yn grwgnach yn eich pebyll, ac yn dweud, “Am fod yr ARGLWYDD yn ein casáu y daeth â ni allan o wlad yr Aifft a'n rhoi yn nwylo'r Amoriaid i'n difa.

Deuteronomium 1