Datguddiad 8:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint.

5. Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi â thân o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu sŵn taranau a fflachiadau mellt a daeargryn.

6. Paratôdd y saith angel, yr oedd y saith utgorn ganddynt, i'w seinio.

7. Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thân, yn gymysg â gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las.

8. Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n dân. Trodd traean o'r môr yn waed,

9. a bu farw traean o greaduriaid byw y môr, a dinistriwyd traean o'r llongau.

Datguddiad 8