Datguddiad 8:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.

4. O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint.

5. Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi â thân o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu sŵn taranau a fflachiadau mellt a daeargryn.

6. Paratôdd y saith angel, yr oedd y saith utgorn ganddynt, i'w seinio.

Datguddiad 8