Datguddiad 7:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt awdurdod i niweidio'r ddaear a'r môr,

3. a dywedodd: “Peidiwch â niweidio na'r ddaear na'r môr na'r coed nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.”

4. A chlywais rif y rhai a seliwyd, cant pedwar deg a phedair o filoedd wedi eu selio, o bob un o lwythau plant Israel.

5. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio,o lwyth Reuben deuddeng mil,o lwyth Gad deuddeng mil,

Datguddiad 7