Datguddiad 6:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Edrychais, ac wele geffyl gwelwlwyd; ac enw ei farchog ef oedd Marwolaeth, ac yn ei ganlyn yn dynn yr oedd Hades. Rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, hawl i ladd â'r cleddyf ac â newyn ac â phla, a thrwy fwystfilod y ddaear.

9. Pan agorodd y bumed sêl, gwelais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddwyd ar gyfrif gair Duw ac am y dystiolaeth yr oeddent wedi ei dwyn.

10. Gwaeddasant â llais uchel: “Pa hyd, Benllywydd sanctaidd a gwir, cyn i ti farnu, a dial ein gwaed ar drigolion y ddaear?”

11. Yna rhoddwyd i bob un ohonynt fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto am ychydig amser hyd nes bod nifer eu cydweision a'u cymrodyr, a oedd i'w lladd fel hwythau, yn gyflawn.

12. Edrychais pan agorodd y chweched sêl. Bu daeargryn mawr, aeth yr haul yn ddu fel sachliain galar, a'r lleuad lawn yn goch fel gwaed.

13. Syrthiodd sêr y nef i'r ddaear fel cawod o ffigys gleision oddi ar ffigysbren pan siglir ef gan wynt mawr.

14. Rhwygwyd y ffurfafen fel sgrôl yn cael ei dirwyn, a symudwyd pob mynydd ac ynys o'u lle.

Datguddiad 6