Datguddiad 6:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Edrychais pan agorodd yr Oen y gyntaf o'r saith sêl, a chlywais y cyntaf o'r pedwar creadur byw yn dweud â llais fel taran, “Tyrd.”

2. Edrychais, ac wele geffyl gwyn; yr oedd gan ei farchog fwa; rhoddwyd iddo goron, ac fe aeth allan fel concwerwr i ennill concwest.

3. Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn dweud, “Tyrd.”

4. A daeth allan geffyl arall, fflamgoch; ac i farchog hwn rhoddwyd awdurdod i ddwyn heddwch oddi ar y ddaear a pheri i bobl ladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.

5. Pan agorodd y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn dweud, “Tyrd.” Edrychais, ac wele geffyl du; ac yr oedd gan ei farchog glorian yn ei law.

6. Clywais sŵn fel llais o ganol y pedwar creadur byw yn dweud: “Darn arian am litr o wenith, darn arian am dri litr o haidd; ond paid â difetha'r olew na'r gwin.”

7. Pan agorodd y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dweud, “Tyrd.”

Datguddiad 6