Datguddiad 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.

2. A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi â llef uchel, “Pwy sydd deilwng i agor y sgrôl ac i ddatod ei seliau?”

3. Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgrôl nac edrych arni.

Datguddiad 5