Datguddiad 22:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.

16. “Yr wyf fi, Iesu, wedi anfon fy angel i dystiolaethu am y pethau hyn i chwi ar gyfer yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, seren ddisglair y bore.”

17. Y mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd”; a'r sawl sy'n clywed, dyweded yntau, “Tyrd.” A'r sawl sy'n sychedig, deued ymlaen, a'r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhodd.

Datguddiad 22