Datguddiad 19:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw ni,chwi ei holl weision ef,a'r rhai sy'n ei ofni ef,yn fach a mawr.”

6. A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:“Halelwia!Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,wedi dechrau teyrnasu.

7. Llawenhawn a gorfoleddwn,a rhown iddo'r gogoniant,oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,ac ymbaratôdd ei briodferch ef.

8. Rhoddwyd iddi hi i'w wisgoliain main disglair a glân,oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”

Datguddiad 19