Datguddiad 19:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,gan iddo farnu'r butain fawra lygrodd y ddaear â'i phuteindra,a dial gwaed ei weisionarni hi.”

3. A dywedasant eilwaith:“Halelwia!Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd.”

4. Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud:“Amen! Halelwia!”

5. A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw ni,chwi ei holl weision ef,a'r rhai sy'n ei ofni ef,yn fach a mawr.”

6. A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:“Halelwia!Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,wedi dechrau teyrnasu.

7. Llawenhawn a gorfoleddwn,a rhown iddo'r gogoniant,oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,ac ymbaratôdd ei briodferch ef.

Datguddiad 19