Datguddiad 13:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os oes gan rywun glust, gwrandawed:

10. “Os yw rhywun i'w gaethiwo,fe'i caethiwir.Os yw rhywun i'w ladd â'r cleddyf,fe'i lleddir â'r cleddyf.”Yma y mae angen dyfalbarhad a ffydd y saint.

11. Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig.

12. Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.

Datguddiad 13